You may have to Search all our reviewed books and magazines, click the sign up button below to create a free account.
Dyma gyfrol o ddarluniau gan Huw Aaron yn seiliedig ar gerdd gan Myrddin ap Dafydd. Cerdd ddigri yn disgrifio taith gerdded yr adran iau yn yr ysgol i fyny Mynydd Mamoth – cerdd a fydd yn bendant at ddant pob plentyn sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored.
Cyfres o ysgrifau hunangofiannol sydd yn gwibio trwy atgofion ond yn rhoi lle i'r dychymyg blethu lliw hefyd. Mae yr ysgrifau yn cynnwys straeon o blentyndod Iola hyd at y presennol gan ddychmygu yr hyn sydd eto i ddod. Mae y gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch. A series of biographical essays that move swiftly through memory but also give rein to imagination to weave colour. The essays comprise stories from Iola's childhood to the present day as she imagines what the future holds. The volume also faces sadness and challenges honestly and with conviction, that love can shine through darkness.
Mae Ffion, y gyrrwr tacsi, a Josh ei mab yn gymeriadau pwysig yn y nofel gyffrous hon. Mae Josh mewn cariad efo Mari sy'n byw yn Heol y Garn, ardal lawer mwy cefnog.
Yn "e;Cofnodion"e; mae Meic Stephens yn edrych yn ol ar ei fywyd fel llenor, golygydd, swyddog Cyngor y Celfyddydau, athro prifysgol a dyn teulu. Mae cyfraniad nodedig Meic i ddwy lenyddiaeth Cymru wedi'i gydnabod yn eang, ac yntau wedi ysgrifennu, cyfieithu neu olygu tua 170 o gyfrolau. Gweithiodd yn ddiflino dros ddegawdau lawer, ac er ei fod bellach wedi cyrraedd oed yr addewid mae ei ddiwydrwydd yn parhau. Trodd yn ddiweddar at farddoni yn Wenhwyseg, a daeth o fewn trwch blewyn i gipio Coron yr Eisteddfod
Catrin has moved from London to Porth-glas. She wants to run a Bed and Breakfast business, but it's not easy. Entry level for Welsh Learners.
Yn Hydref 2021 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol o straeon byrion gan Aled: Tynnu. Ymestyn i'r un cyfeiriad yw'r nod yn y gyfrol hon.
'Fe wna i adeiladu castell yma i ti, i dy gadw'n ddiogel am byth.' Teyrnas beryglus yw Brycheiniog y ddegfed ganrif – mor beryglus fel bod rhaid cuddio chwaer y brenin o'r golwg. Nid yw Elwedd wedi cael gadael y castell ar y dŵr am ddeuddeng mlynedd. Ar yr ynys, mae'n ddiogel. Wrth geisio darganfod y gwir am y castell ar y dŵr, daw Elwedd i ganol brwydr am Frycheiniog gyfan.
Ceri has returned to Garn Fadryn village on the Ll?n peninsula. She moves to her grandmother's old home to run a bed and breakfast business. Suitable for Foundation Stage Welsh Learners.
Hanes difyr, dwys a doniol sy'n crisialu cyfraniad mudiad Cymraeg ei iaith sydd a 280 o ganghennau a 7,000 o aelodau. Dyma gofnod o fudiad sydd wedi cynnig cyfleoedd i fenywod gymdeithasu, arfer doniau, ymgyrchu a chodi arian er budd elusennau yng Nghymru a thu hwnt
Pan ddaw Ifan adref o'r Ail Ryfel Byd i'w gartref yng nghefn gwlad Eifionydd, mae Mair, ei wraig yn falch iawn o'i weld. Wedi'r cyfan, chafodd rhai o'i gyfoedion ddim dychwelyd. Ond, â chysgod yr ymladd wedi gadael eu hôl ar Ifan, sut all y teulu bach oroesi?